Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog – y Broses ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus Pwysig yng Nghymru a Chraffu arnynt
1. Cefndir – y broses penodiadau cyhoeddus
Mae dau fath gwahanol o benodiadau cyhoeddus, sef rhai a reoleiddir a rhai nas rheoleiddir. Mae’n rhaid i benodiadau a reoleiddir gydymffurfio â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus. Nid oes gofyniad i ymlynu wrth y Cod ar gyfer penodiadau nas rheoleiddir ond mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod yr holl ymarferion ar gyfer penodiadau cyhoeddus yn cydymffurfio â’r Cod.
Mae penodiadau cyhoeddus arwyddocaol yn cynnwys cymysgedd o benodiadau a reoleiddir ac nas rheoleiddir. Er enghraifft, mae swydd y Comisiynydd Plant yn un nas rheoleiddir ond mae swydd Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau’n un a reoleiddir.
Mae’r Gweinidog â chyfrifoldeb yn cytuno ar y broses a’r ddogfennaeth recriwtio ar ddechrau pob ymarfer recriwtio. Mae panel cyfweld yn goruchwylio’r broses benodiadau. Mae Aseswr Penodiadau Cyhoeddus yn cadeirio’r panel ar gyfer pob swydd Cadeirydd i gorff a reoleiddir. Mae paneli (ni waeth pa un a yw’r penodiad yn un a reoleiddir ai peidio) wastad yn cynnwys aelod annibynnol.
Mae’r panel cyfweld yn llunio adroddiad ar y cyfweliadau ar ddiwedd y broses benodiadau. Anfonir hwn at y Gweinidog â chyfrifoldeb gan argymell pwy ddylai gael ei benodi a/neu gan ofyn i’r Gweinidog â chyfrifoldeb gwrdd â’r ymgeiswyr y gellir eu penodi cyn gwneud penderfyniad. Gweinidogion sy’n gyfrifol am benodiadau cyhoeddus yn y pen draw. Yn olaf mae’n rhaid i benodiad yr ymgeisydd llwyddiannus gael ei gyhoeddi.
2. Diweddariad ar faterion a Godwyd gan y Pwyllgor ym mis Mawrth 2015
2a) Swyddi Comisiynwyr a rôl/cynnwys y Cynulliad Cenedlaethol
Yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth 2015 cododd y Pwyllgor bryderon bod Comisiynwyr yn cael eu penodi a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Fe argymhellodd y dylai’r penodiadau hyn gael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn cryfhau annibyniaeth ac atebolrwydd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ceisio cynnwys y Cynulliad Cenedlaethol yn y broses benodiadau. Er enghraifft, mae’r panel cyfweld ar gyfer swyddi Comisiynwyr wastad yn cynnwys o leiaf un AC. Mae’r panel cyfweld ar gyfer swydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys un cynrychiolydd o’r Cynulliad Cenedlaethol tra bo’r panel cyfweld ar gyfer swyddi’r Comisiynwyr eraill yn cynnwys cynrychiolydd o bob un o’r prif bleidiau gwleidyddol.
Gall Pwyllgorau’r Cynulliad ddewis craffu ar waith y Comisiynwyr a’u gwahodd i gyfarfodydd Pwyllgorau i roi tystiolaeth, gan felly brofi eu heffeithiolrwydd a’u hannibyniaeth.
2b) Argymhelliad o’r Adolygiad o Rôl a Swyddogaethau’r Comisiynydd Plant
Gofynnodd y Pwyllgor yn flaenorol i’r Prif Weinidog ystyried safoni cyfnod dal swydd Comisiynwyr a’r rheolau ar gyfer eu hail-benodi yn ogystal â phasio Bil Comisiynwyr. Cafodd rôl a swyddogaethau’r Comisiynydd Plant eu hadolygu yn 2015 ac fe drafododd y Cabinet ganfyddiadau’r adolygiad a’r goblygiadau ar gyfer swyddi eraill.
Mae cyfnodau dal swydd Comisiynwyr wedi’u diffinio mewn deddfwriaeth. Er bod Gweinidogion yn gweld y rhesymeg dros fod â mwy o gysondeb a chydlyniad rhwng Comisiynwyr, nid ydynt wedi’u darbwyllo eto bod angen un darn o ddeddfwriaeth na bod angen diwygio deddfwriaeth bresennol er mwyn dwyn mwy o gysondeb. Mae’n werth cofio bod llawer o’r gwahaniaethau rhwng y Comisiynwyr yn adlewyrchu eu priod rolau a swyddogaethau, sy’n benodol i’w cylchoedd gwaith.
Mater i’r llywodraeth newydd yn dilyn yr etholiadau fydd unrhyw ddeddfwriaeth newydd.
3. Adolygiad o Benodiadau Cyhoeddus ar lefel y DU
Mae Syr Gerry Grimstone wedi cynnal adolygiad o Swydd y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Nid yw canlyniadau’r adolygiad ar gael eto ond mae disgwyl y bydd newidiadau i rôl y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus a’r broses penodiadau cyhoeddus. Bydd trefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penodiadau’n cael eu hadolygu unwaith y bydd canlyniad yr adolygiad yn hysbys.
4. Amrywiaeth mewn Penodiadau Cyhoeddus (gweler dogfen 1)
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gynyddu nifer y menywod ar Fyrddau i 40%. Mae’r adran nodiadau ar waelod dogfen 1 yn cynnwys diffiniad o bob un o’r termau a ddefnyddir yn y tablau data. Sylwer na fydd ffigyrau ar gyfer 2015/16 ar gael tan fis Ebrill 2016.
Dogfen 1
31 Mawrth 2011 – 1 Ebrill 2012 |
||
|
Penodiadau a Reoleiddir |
Penodiadau Nas Rheoleiddir |
Cyfanswm y penodeion sy’n gwasanaethu ar Fyrddau |
355 - 206 dyn (58.03%) - 149 menyw (41.97%) |
268 - 191 dyn (71.27%) - 77 menyw (28.73%)
|
Penodiadau Newydd |
36 - 25 dyn (69.44%) - 11 menyw (30.56%) |
23 - 15 dyn (62.22%) - 8 menyw (34.78%) |
Ail-benodiadau |
40 - 22 dyn (55%) - 18 menyw (45%) |
50 - 44 dyn (88%) - 6 menyw (12%) |
31 Mawrth 2012 – 1 Ebrill 2013
|
||
|
Penodiadau a Reoleiddir |
Penodiadau Nas Rheoleiddir |
Cyfanswm y penodeion sy’n gwasanaethu ar Fyrddau |
357 - 211 dyn (59.1%) - 146 menyw (40.9%) |
231 - 161 dyn (69.7%) - 70 menyw (30.3%) |
Penodiadau Newydd |
99 - 46 dyn (46.46%) - 53 menyw (46.46%) |
15 - 12 dyn (80%) - 3 menyw (20%) |
Ail-benodiadau |
36 - 27 dyn (75%) - 9 menyw (25%)
|
28 - 16 dyn (57.14%) - 12 menyw (42.86%) |
31 Mawrth 1 2013 – 1 Ebrill 2014 |
||
|
Penodiadau a Reoleiddir |
Penodiadau Nas Rheoleiddir |
Cyfanswm y penodeion sy’n gwasanaethu ar Fyrddau |
407 - 234 dyn (57.49%) - 173 menyw (42.51%) |
223 - 154 dyn (69.06%) - 69 menyw (30.94%) |
Penodiadau Newydd |
72 - 40 dyn (55.56%) - 32 menyw (44.44%) |
14 - 11 dyn (78.57%) - 3 menyw (21.43%) |
Ail-benodiadau |
108 - 68 dyn (62.96%) - 40 menyw (37.04%) |
46 - 23 dyn (50%) - 23 menyw (50%)
|
31 Mawrth 2014 – 1 Ebrill 2015 |
||
|
Penodiadau a Reoleiddir |
Penodiadau Nas Rheoleiddir |
Cyfanswm y penodeion sy’n gwasanaethu ar Fyrddau |
416 - 238 dyn (57.21%) - 178 menyw (42.79%) |
240 - 162 dyn (67.5%) - 78 menyw (32.5%)
|
Penodiadau Newydd |
63 - 24 dyn (38.1%) - 38 menyw (60.32%) - 1 heb ddatgan (1.59%)
|
85 - 63 dyn (74.12%) - 22 menyw (25.88%)
|
Ail-benodiadau |
77 - 40 dyn (51.95%) - 36 menyw (46.75%) - 1 heb ddatgan (1.3%) |
18 - 13 dyn (72.22%) - 5 menyw (27.78%) |
Nodiadau: